Cwestiynau Cyffredin
Sut y gallaf i chwarae?
Llenwch y ffurflen gais ar y safle hwn, a'i hargraffu, ei harwyddo a'i hanfon at RHADBOST LOTERI POWYS.
Mae taflenni hefyd ar gael o nifer o siopau ym Mhowys.
Faint mae'n ei gostio?
Mae pob rhif yn costio £1 yr wythnos. Er mwyn gwneud gweinyddiaeth y loteri yn haws, telir am gais bob 6 wythnos drwy archeb sefydlog
neu gydag un taliad sengl am 20 wythnos gyda siec neu archeb bost.
Dydw i ddim yn hoffi archebion sefydlog, a yw'n bosibl i mi dalu mewn ffordd arall?
Ydy, anfonwch siec neu archeb bost i ni. Rydym yn gofyn am leiafswm o £20 os ydych yn talu gyda siec.
Does gen i ddim cyfrif banc, ydy hi'n dal yn bosibl i mi chwarae?
Ydy, gallwch dalu gydag archeb bost.
Faint o rifau sy'n bosibl i mi eu cael?
Cymaint ag a ddymunwch! Does dim cyfyngiad; £1 y rhif yr wythnos yw'r swm i'w dalu.
Ga' i ddewis fy rhifau?
Na chewch, rhoddir y rhif nesaf mewn rhes i chi ac rydych chi'n cadw'r rhif hwnnw am gyhyd ag yr ydych yn dewis chwarae.
Beth yw'r siawns y byddaf yn ennill?
Disgwylir y bydd dros 4,000 o bobl a mwy yn chwarae, felly eich siawns fydd 1 mewn 4,000!
Os mai dim ond 4,000 sydd yn y loteri, pam fod fy rhif i dros 10,000?
Am resymau gweinyddol dechreuwyd y gyfres o rifau a ddyrennir ar 10,000.
Sut bydda' i'n gwybod fy mod wedi ennill?
Mae canlyniadau'r tyniad yn cael eu darlledu ar Radio Maldwyn a Valleys FM bob dydd Mercher am 11:45am a rhoddir cyhoeddusrwydd i'r enillydd yn y County Times ac ar y wefan hon.
A oes raid i mi hawlio?
Nac oes, byddwn yn cysylltu â chi os ydych yn ennill.
A oes raid i mi gael fy llun yn y papur?
Rydym yn cadw'r hawl i gyhoeddi'r enillwyr ond ni fyddwn yn eich gorfodi i gael eich llun yn y papur!
Byddem yn casáu i hynny eich atal rhag chwarae.
Pwy sy'n gweithredu'r loteri?
Gweithredir y loteri gan gyfarwyddwyr Investing in Powys Society Ltd.
I ble y mae'r arian yn mynd?
Ar ôl talu'r arian gwobr a threuliau fel y staff, mae gweddill yr enillion yn mynd tuag at fusnesau Powys
ar ffurf benthyciadau di-log ac i grwpiau cymunedol fel grantiau.
Pryd mae'r raffl?
Cynhelir y raffl bob dydd Mercher am 1:30pm.
Sut y gwneir y raffl?
Rhoddir pob cais i'r loteri ar gronfa ddata gyfrifiadurol arbennig. Yna bob dydd Mercher gofynnir i rywun
annibynnol wasgu'r botwm 'dewis rhif' ar y cyfrifiadur. Mae'r cyfrifiadur yn dechrau ei raglen ar hap
ac yn dewis un rhif o blith yr holl geisiadau.
Pa mor sydyn y bydda' i'n derbyn yr arian os byddaf yn ennill?
Ar unwaith. Mae siec yn barod yn swyddfa'r loteri yn union ar ôl cynnal y raffl.
Ble y lleolir y loteri?
Mewn swyddfa ar Stryd Lydan, y Trallwng.
Dydw i ddim yn gwybod fy rhif, sut y gallaf ei ddarganfod?
Rhowch alwad i ni ar 01938 555925.
Rydw i'n byw y tu allan i Bowys, a yw'n bosibl i mi chwarae?
Ydy, os oes gennych gyfeiriad Prydeinig. Rydym ni yn rhoi benthyciadau i fusnesau a leolir ym Mhowys yn unig ond
gall unrhyw un gyda chyfeiriad Prydeinig chwarae.
A yw'n bosibl rhoi rhif fel anrheg?
Ydy, yn sicr! Llenwch y ffurflen archeb sefydlog gydag enw'r chwaraewr ar y brig a manylion eich cyfrif banc
oddi tanodd. Mae Loteri Powys yn syniad gwych fel anrheg ar gyfer y teulu i gyd!