Buddsoddi Yng Nghymdeithas Powys Cyfyngedig

Amdanom Ni:



Rydym ni'n bodoli er mwyn casglu arian ar gyfer system o fenthyciadau Di-log er mwyn creu datblygiad a chyflogaeth sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol ac i ddarparu cronfa grant ar gyfer prosiectau a chynlluniau cymunedol cadarn o safbwynt ecolegol drwy bob rhan o Bowys.

Mae'n syml! Wrth i'ch arian fynd i mewn i'r Loteri mae'n cael ei 'ailgylchu' yn fenthyciadau busnes di-log a grantiau cymunedol. Wrth i fwy o chwaraewyr gymryd rhan ac i fenthyciadau gael eu had-dalu, mae arian y mae angen mawr amdano yn cael ei gadw 'o dan glo' yn economi Powys.

Rownd a rownd mae'n mynd, gan ail-fuddsoddi yn barhaus yn eich cymuned leol. Dim arian yn cael ei golli i weddill y DU / Ewrop / y Byd - dim ond i Bowys!